Enillwyr 2020
2020-21
Yn rhan o ddathlu pen-blwydd Degoli, cynhaliodd Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol gystadleuaeth stori fer a oedd ar agor i bob disgybl ysgol gynradd blwyddyn pump a chwech yng Nghymru. Gofynnwyd i’r disgyblion ysgrifennu stori fer heb fod yn fwy na 500 o eiriau wedi’i hysbrydoli gan Ddiwrnod Degoli ym 1971 a'r newid i arian degol.
Cafodd y stori fuddugol ei dewis gan y beirniad gwadd a'r awdur plant enwog, Eloise Williams, a'i darlunio gan yr artist gwadd Rebecca Green. Gallwch weld y deg cais gorau isod.