Ein darlunydd
David Lawrence
Dychwelyd i hafan y gystadleuaeth
Mae David Lawrence wedi gweithio fel darlunydd, dylunydd a cherflunydd trwy gyfnod o newid aruthrol: yn ystod y deugain mlynedd diwethaf gwelwyd chwyldro mewn technoleg delwedd a’r ffordd y caiff celf ei gweld a’i defnyddio. Ac eto mae’n dal i lynu wrth y sgiliau sylfaenol a ddysgodd ar y dechrau: “Dechreuais weithio pan oedd popeth yn cael ei luniadu neu ei beintio â llaw - ymhell cyn ymddangosiad cyfrifiaduron. Rwyf wedi addasu ac amsugno’r newidiadau dros y blynyddoedd – ac eto rwy’n dal i ddibynnu ar bensil a phapur, a sgiliau lluniadu sylfaenol, i gael fy syniadau i lawr."
“Dw i wedi gweithio mewn sawl cyfrwng ac mewn sawl rôl dros y blynyddoedd, wrth i ffasiynau a gofynion newid: roedd yna gyfnod pan oedd sgraff-fyrddau yr un mor ffasiynol – ac wedyn roeddwn i’n gweithio fel artist clytwaith – yn peintio ‘yn null’ y Meistri, ac yna eto bûm yn gweithio fel cerflunydd yn gwneud anrhegion casgladwy ac yn fwy diweddar fel darlunydd hanesyddol, yn ail-greu cestyll a golygfeydd o'r gorffennol. Mae wedi bod yn daith amrywiol a diddorol."
Facebook: David Lawrence Revivat
Instagram: davidlawrenceartdotcom