Cwestiynau Cyffredin
Yn chwilio am help? Ceir rhestr o'n cwestiynau cyffredin isod. Os oes gennych gwestiwn arall yr hoffech i ni ei ateb, e-bostiwch storycompetition@royalmintmuseum.org.uk neu trowch at ein Telerau ac Amodau am wybodaeth fanylach.
Sut mae cystadlu?
Anfonwch unrhyw geisiadau mewn e-bost ynghyd â chopi wedi'i lofnodi o'n Telerau ac Amodau i storycompetition@royalmintmuseum.org.uk, defnyddiwch ein ffurflen Google, neu postiwch nhw i:
Cystadleuaeth Stori Fer
Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol
Llantrisant
Pont-y-clun
CF72 8YT.
Rhaid i chi gynnwys copi wedi ei lofnodi o'n Telerau ac Amodau gyda'ch cais. Gellir gwneud hyn ar gyfer pob plentyn unigol neu ar ran dosbarth cyfan. Ar frig pob stori cofiwch nodi enw'r cystadleuydd, ei oedran a’i ysgol. Bydd manylion y cystadleuwyr buddugol yn cael eu rhannu'n gyhoeddus gyda'r wasg ac ar ein gwefan.
Oes rhaid imi dalu i gystadlu?
Nac oes, mae cystadlu’n rhad ac am ddim.
Pwy sy'n gallu cystadlu?
Unrhyw un rhwng wyth ac un ar ddeg oed sy'n byw yn y Deyrnas Unedig, ac sy’n cael ei addysg mewn ysgol neu gartref yno.
Ydw i'n gallu cystadlu’n annibynnol, neu oes rhaid i mi gystadlu drwy fy ysgol?
Os ydych rhwng wyth ac un ar ddeg oed ac yn mynd i'r ysgol yn y Deyrnas Unedig, gallwch gystadlu’n unigol, neu drwy eich ysgol!
A gaf fi gyflwyno mwy nag un stori?
Na chewch, dim ond un stori yr un y gallwch ei chyflwyno.
Beth yw'r wobr?
Bydd yr enillydd yn derbyn set o ddarnau arian blynyddol ar gyfer 2025 a chopi o’i stori wedi’i ddarlunio gan ddarlunydd proffesiynol ac wedi’i fframio. Bydd ysgol yr enillydd yn derbyn £5,000 o bunnoedd werth o dalebau i’w gwario ar offer a llyfrau ar gyfer y llyfrgell. Bydd y pedwar o awdur a dderbyniodd ganmoliaeth uchel, a’r pump a ddaeth yn ail yn derbyn darn o arian coffadwriaethol.
A fydd fy manylion yn cael eu storio neu eu defnyddio?
Byddwn yn defnyddio eich manylion i gysylltu â chi dim ond os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer ac ni fydd data'n cael ei gasglu at unrhyw ddiben heblaw mewn perthynas â'r gystadleuaeth. Bydd manylion y cystadleuwyr buddugol, fel enw, oedran, ysgol a llun, yn cael eu rhannu'n gyhoeddus gyda'r wasg ac ar ein gwefan ynghyd â'r straeon buddugol. Trowch at ein telerau ac amodau am fwy o wybodaeth.
Ble alla i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y thema?
Trowch at ein gwefan ym mis Ionawr 2025 pan fydd gennym adran ysbrydoliaeth bwrpasol, yn ogystal ag adnoddau y gellir eu lawrlwytho i athrawon, ond gallwch ddefnyddio syniadau o unrhyw ffynhonnell.
Oes rhaid i mi ddefnyddio un o'r pynciau a awgrymir?
Nac oes, syniadau yn unig ydyn nhw. Gallwch ysgrifennu eich stori am unrhyw beth o gwbl sy'n gysylltiedig â chysyniad 'Dyfodol Cynaliadwy'
A allaf gyflwyno fy nghais mewn iaith heblaw’r Saesneg?
Wrth gwrs, ond byddwn yn trefnu cyfieithu eich stori i'r Saesneg er mwyn ei beirniadu.
Sut fydd yr enillydd yn cael ei benderfynu?
Dewisir rhestr fer o 50 o geisiadau gan dîm Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu darllen a'u gwerthuso gan ein beirniad gwadd a fydd yn dewis yr enillydd, 4 cais uchel eu canmoliaeth a 5 nesaf at y gorau.
Sut fydda i'n cael gwybod os byddaf yn ennill?
Os ydych ar y rhestr fer i gael gwobr, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich ysgol heblaw ichi nodi yr hoffech inni gysylltu â chi mewn ffordd wahanol..
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn ennill?
Bydd y stori fuddugol yn cael ei chyhoeddi, a daw eich cais yn rhan o gasgliad Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol, ynghyd â'r ceisiadau eraill sydd ar y rhestr fer. Byddwch yn cael eich gwobr drwy negesydd a bydd cyflwyniad rhithwir yn cael ei drefnu drwy eich ysgol neu warcheidwaid. Efallai bydd diddordeb gan y cyfryngau yn y stori, ond byddem yn trafod hynny gyda chi a'ch gwarcheidwaid ar y pryd.