Roedd dyfodiad llongau a yrrwyd gan stêm wedi chwyldroi’r diwydiant llongau. Erbyn hynny, ni fyddai angen i longau ddibynnu ar y gwynt i gludo nwyddau a phobl o amgylch y byd.
Er y datblygwyd y stemar gyntaf mor gynnar â 1794, gan Iarll Stanhope, nid oedd yn llwyddiannus iawn. Fodd bynnag, datblygodd y dechnoleg yn gyflym, ac erbyn 1837, pryd yr esgynnodd y Frenhines Fictoria i’r orsedd, roedd llawer o’r stemars hyn mewn defnydd o amgylch y wlad.
Yr agerlong Baltic © Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Greenwich, Llundain
Roedd llongau hwylio a stemars yn parhau i gael eu defnyddio ochr yn ochr â’i gilydd, ond wrth i’r dyluniadau ar gyfer stemars wella, daethant yn fwy cyffredin. Roedd hyn yn newid y mathau o bobl a fyddai’n mynd i weithio ar longau. Ar long hwylio, roedd angen i longwyr feddu ar sgiliau hwylio mwy traddodiadol, fel y gallu i weithio rigin, sef y system o raffau a chadwynau sy’n rheoli’r hwyliau. Ond, ar gyfer y stemars newydd, byddai rhaid cael peirianwyr a fyddai’n gallu gweithio yn ystafell yr injan. Roedd sawl un o’r swyddi yn ystafell yr injan yn eithaf peryglus, o ganlyniad i’r peirianwaith trwm a’r ffwrneisiau mawr ar fwrdd y llong.
Golygfa allanol o SS Great Britain Brunel © Joyce Nelson. Shutterstock.com
Un o’r llongau teithwyr enwocaf a yrrwyd gan stêm yn Oes Fictoria oedd yr SS Great Britain. Yn ei dyddiau cynnar, roedd y llong yn ddull teithio moethus iawn, yn enwedig o gymharu â’r llongau hwylio hynach, gyda bwyd o’r ansawdd gorau a chabanau cysurus ar gael i deithwyr dosbarth cyntaf. Byddai’r teithwyr eraill a oedd yn aros yn y llety rhatach, sef y trydydd dosbarth, yn cael llai o gysur o lawer, a’r rheiny mewn cabannau tywyll a chyfyng ac yn gorfod bwyta bwyd mwy cyffredin.
Fel yn achos llongau hwylio cynharach, byddai’r stemars modern yn cyflogi pyrser i ofalu am gyfrifon y llong. Byddai’r pyrser hefyd yn helpu teithwyr â’u materion ariannol. Yn y cyfnod hwn, nid oedd modd defnyddio cardiau neu ddulliau electronig i wneud taliadau, felly byddai pob teithiwr yn cario arian ar ei deithiau.
Mannau cysgu ar yr SS Great Britain © Philip Bird LRPS CPAGB. Shutterstock.com
Suggested links
Children on board the SS Great Britain