RNLI
Yn 2024, mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, neu’r RNLI, yn dathlu 200 mlynedd ers ei sefydlu. Eleni, mae’r Bathdy Brenhinol wedi dylunio a rhyddhau darn 50p arbennig i goffau a dathlu’r achlysur. p>
Hanner can ceiniog coffâd yr RNLI © Y Bathdy Brenhinol
Ers ei sefydlu ym 1824, mae’r RNLI wedi achub dros 144,000 o bobl. Mae’r RNLI yn cynnwys pobl ymroddgar sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud y dyfroedd o gwmpas y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn fwy diogel, wrth helpu pobl, gartref a thramor, i achub bywydau. Gyda chefnogaeth staff sy’n arbenigwyr yn eu maes, mae’r mwyafrif o bobl yr RNLI yn wirfoddolwyr - sef pobl gyffredin sy’n gwneud pethau rhyfeddol. Maent yn lansio badau achub ac yn aelodau o’u criwiau, yn rhedeg siopau ac yn codi arian.
Criw cwch a hofrennydd yr RNLI ar y môr
Ers 2021, bu’r RNLI yn rhedeg dros 240 o batrolau ag achubwyr bywydau ar hyd a lled traethau’r DU ac Ynysoedd y Sianel. Mae ei achubwyr bywydau yn achub unigolion o’r dŵr, yn rhoi cymorth cyntaf ac yn siarad â’r cyhoedd, gan eu haddysgu am ddiogelwch yn y dŵr, i geisio atal pobl rhag cael i drafferthion.
Mae dewrder y miloedd o wirfoddolwyr ymroddedig yn helpu’r RNLI i redeg gwasanaeth achub bywydau 24 awr ar gyfer y DU ac Iwerddon. Bydd gwirfoddolwyr yr RNLI yn treulio eu hamser hefyd yn addysgu eu cymunedau lleol, yn helpu pobl i ddeall sut i gadw eu hunain yn ddiogel yn y dŵr.
Tîm achubwyr bywyd yr RNLI © Gary Perkin. Shutterstock.com
Fe adeiladwyd y bad achub cyntaf 238 o flynyddoedd yn ôl ym 1785, gan saer cerbydau o Lundain o’r enw Lionel Lukin. Gofynnwyd iddo droi cwch pysgota’n fad achub i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn y dŵr yng Nghastell Bamburgh yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr. Y bad achub hwn oedd y cwch ‘ansuddadwy’ cyntaf yn y byd.
Bu’r RNLI yn chwarae ei ran yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai’r elusen yn tynnu cychod llawn gwybodaeth dra chyfrinachol, gan eu helpu i snecian ar draws y moroedd, a byddent hyd yn oed yn tynnu cychod a oedd yn cludo bomiau. Byddai rhaid i’r badau achub ganfod eu ffordd trwy feysydd ffrwydron (mannau a chanddynt fomiau nofiol), byddent yn codi peilotiaid o awyrennau a oedd wedi cwympo, ynghyd â chludo milwyr clwyfedig yn ôl i’r lan, a danfon bwyd i bentrefi anghysbell.
Below you can see some more images of some RNLI crews through history.
Abersoch. ON335 Oldham. 1890s. © RNLI
Fraserburgh. Criw modur Watson AR 908 Duges Caint. Hetiau glaw, cotiau oel a siacedi achub capoc. 1958 © RNLI
Humber. 1908 © RNLI
Jas Staken, John Stephenson, Matthew Stanton Boulmer 1936 © RNLI
Lanswyr benywaidd yn Hauxley, Northumberland © RNLI
Brooke, Ynys Wyth © RNLI
Suggested links