Efallai mai llong enwocaf oes y Tuduriaid yw’r Mary Rose, un o longau rhyfel Harri’r VIII. Ym 1545, suddodd y llong yn y Solent, sef yr ehangder o ddŵr rhwng arfordir deheuol Lloegr ac Ynys Wyth.
Codwyd y llong dros 400 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1982. Oherwydd bod y llaid (mwd mân iawn) ar waelod y Solent wedi cadw rhan o’r llong a’i chynnwys mor dda, roedd yn rhoi ciplun gwirioneddol arbennig o fywyd ar fwrdd llong Duduraidd.
The Mary Rose gan Geoff Hunt ©
Nid dim ond gweithle oedd y llong, roedd yn gartref hefyd i gannoedd o longwyr. Roedd llawer o bethau pob dydd ar ei bwrdd, yr oedd nifer ohonynt yn eiddo personol i’r criw, sy’n helpu i roi gwybodaeth i ni am eu bywydau pob dydd.
Ymhlith y pethau hyn yr oedd platiau, dysglau a thancardiau ar gyfer bwyta ac yfed. Roedd yno rai piwter coeth ar gyfer y swyddogion, ond nifer o rai pren ar gyfer llongwyr cyffredin. Roedd y darganfyddiadau hyn yn rai pwysig iawn gan y byddai pethau pob dydd fel y rhain yn aml yn cael eu taflu, a ddim yn para. Roedd yno botiau coginio a gweddillion esgyrn anifeiliaid a oedd yn ein helpu i ddeall sut y byddai llongwyr yr adeg honno’n coginio, a pha fwyd y byddent yn ei baratoi i’w fwyta.
Pethau eraill y daethpwyd o hyd iddynt ym malurion y llong oedd eitemau fel dillad, gemau a ddefnyddiwyd gan y llongwyr i ddifyrru eu hunain, tŵls, cwilsynnau, arfau, a hyd yn oed sgerbwd ci’r llong.
Sgerbwd 'Hatch' y ci a ddarganfuwyd ar fwrdd y Mary Rose. © Ymddiriedolaeth Mary Rose
Daethpwyd o hyd i nifer o ddarnau arian hefyd a oedd yn perthyn i aelodau o’r criw, ynghyd â darnau arian a phethau a oedd yn perthyn i Byrser y llong, gan gynnwys clorian fechan y tybiwyd y’i defnyddiwyd i bwyso darnau aur. Y pyrser oedd yr aelod o’r criw a oedd yn gyfrifol am dalu cyflogau’r llongwyr, ynghyd â chadw cyfrifon y llong, prynu nwyddau, sicrhau y byddai dognau bwyd a diod yn cael eu rhannu’n iawn, a newid arian. Rhoddwyd statws eithaf uchel i’r pyrser ar fwrdd y llong, a byddai’n aml yn cael ei gaban preifat ei hun.
Darlun o'r Pyrser ar y Mary Rose gan Oscar Nilsson a'r math o ddarnau arian aur y byddai wedi'u defnyddio. © Ymddiriedolaeth Mary Rose
Suggested links