Stori Windrush
Ar ddydd Mercher 22 Mehefin, 1948, dociodd y llong Empire Windrush yn y DU yn Tilbury ger Aber Tafwys. Cofnododd y log 1027 o deithwyr, a thros 800 ohonynt o'r Caribî.
Tudalen flaen papur newydd Evening Standard adeg Empire Windrush yn cyrraedd Prydain. Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 1948. John Frost Newspapers and Mary Evans Picture Library
Roedd gan nifer o'r teithwyr ar Empire Windrush gysylltiadau cryf â'r Deyrnas Unedig. Roedd rhai ohonynt wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd gan rai ohonyn nhw deulu yn y DU ac roedden nhw'n teimlo bod y genedl yn gartref iddyn nhw. Mae eu straeon i gyd yn wahanol ac yn bwysig!
Dynion o Jamaica ar fwrdd Empire Windrush wedi dod i Brydain i chwilio am waith; mae rhai o'r dynion, wedi’u gwisgo'n drwsiadus a siaced a thei amdanynt, yn darllen papur newydd. Illustrated London News Ltd and Mary Evans Picture Library
Rhoddodd Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1948 ddinasyddiaeth Brydeinig i'r bobl hyn, yn ogystal â'r miloedd a'u dilynodd o'r Caribî ac o wledydd y Gymanwlad. Roedd angen gweithwyr ar Brydain i ailadeiladu'r wlad ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac i staffio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol newydd, ac agorodd ei drysau i'r byd.
Roedd y teithwyr ar fwrdd Empire Windrush yn teithio o ynysoedd megis Jamaica, Barbados a Trinidad. Nid oedd bob amser yn hawdd arnynt, am fod llawer o bobl yn wynebu rhagfarn, gwahaniaethu a hiliaeth ar ôl cyrraedd Prydain. Ond newidiodd y bobl a deithiodd o'r ynysoedd hyn wyneb Prydain fodern. Os ydych am ddarganfod mwy, rydym wedi darparu dolenni i wefannau gyda gwybodaeth bellach ac adnoddau addysgu gwych ar waelod y dudalen hon.
Llundain yw ein cartref nawr! Golygfeydd o Brixton gan y ffotograffydd Maurice Ambler - ar gyfer erthygl nodwedd 'Her y Caribî' - 'codi'r llen ar 'Ardal Garibïaidd' Llundain’. Mary Evans Picture Library and Maurice Ambler Collection
Diolch yn fawr i Audrey West - Actifydd Diwylliannol, Hyfforddwr a Seicotherapydd, am ei chymorth gyda'r cynnwys hwn. I gael gwybod mwy am Audrey a'i gwaith ewch i https://blackhistorywales.org.uk/our-team/audrey-west-north-wales-arts-development-officer/
Llong Windrush
Mae stori'r llong ei hun yn un wirioneddol ddiddorol. Fe'i hadeiladwyd fel llong fordaith yn yr Almaen ym 1930 ac fe'i gelwid yn wreiddiol yn MV Monte Rosa. Ar ôl dechrau'r ail ryfel byd, defnyddiwyd y llong i ddechrau i gludo milwyr yr Almaen. Yn ddiweddarach yn y rhyfel fe'i trawsffurfiwyd yn llong garchar a'i defnyddio i alltudio pobl Iddewig o Norwy.
Empire Windrush yn hwylio i fyny'r Sianel tuag at Ddociau Tilbury yn Llundain, yn cludo 400 o Jamaicaid a ddaeth i Loegr i chwilio am fywyd newydd. Illustrated London News Ltd and Mary Evans Picture Library
Cipiwyd y llong gan y Prydeinwyr tua diwedd y rhyfel ac fe'i hailenwyd yn Empire Windrush ar ôl afon Windrush yn ardal Cotswold yn Lloegr.
Gallwch ddysgu mwy am hanes Empire Windrush ar wefan Greenwich yr Amgueddfeydd Brenhinol yma;