Close

 

Trwy gydol ei hanes mae'r Bathdy Brenhinol wedi cyflogi pobl o bob cwr o'r byd. Daw llawer o bobl sy'n gweithio yn y Bathdy o wahanol ardaloedd o'r byd. Yma gallwch ddarllen rhai o'u straeon, o Benedetto Pistrucci tua dechrau'r 1800au hyd at heddiw.

Benedetto Pistrucci

Ganed un o artistiaid ac ysgythrwyr enwocaf y Bathdy Brenhinol, Benedetto Pistrucci, yn Rhufain ym 1783. Daeth i weithio yn y Bathdy yn Llundain yn fuan ar ôl Brwydr Waterloo ym 1815 a chynhyrchodd rhai o’r dyluniadau medalau enwocaf yn hanes y Bathdy Brenhinol.

Dywedir fod Pistrucci yn gymeriad lletchwith iawn ond ei fod yn ysgythrwr hynod o dalentog.Un o'i ddyluniadau enwocaf yw’r un o George a'r Ddraig a oedd ar gyfer tu chwith (cynffonau) darn aur o'r enw sofren. Er i hwn gael ei greu ym 1817, mae'n dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer sofrenni heddiw.

John (Johann) Sigismund Tanner

Ganwyd John Sigismund Tanner yn Saxe-Coburg, sef Bafaria erbyn hyn yn yr Almaen, ym 1704. Roedd yn ysgythrwr medrus a weithiai ar eitemau bychain, fel blychau snisin a chloeon gynnau. Daeth i Loegr tua 1726 lle dechreuodd ymgymryd â gwaith o'r Bathdy Brenhinol, cyn cael ei wneud yn gynorthwyydd i brif ysgythrwr y Bathdy yn ddiweddarach. Byddai’n ysgythru deiau sef offer sy'n cael eu defnyddio i wneud darnau arian. Cafodd swydd y prif ysgythrwr ar ôl marwolaeth y prif ysgythrwr blaenorol.

Roedd Tanner yn byw ym mhreswylfa'r Prif Ysgythrwyr yn Nhŵr Llundain sef lleoliad y Bathdy Brenhinol ar y pryd. Erbyn 1768 dechreuodd ei olwg fethu ac roedd hynny’n broblem am fod ysgythru’n waith manwl iawn. Ymddeolodd, symudodd allan o'r Tŵr a chafodd bensiwn o £200 y flwyddyn i fyw, a oedd yn llawer o arian ar y pryd.

1940-70's

Mae pobl o dreftadaeth Affro-Garibïaidd wedi byw yn y DU ac wedi teithio yma ers amser maith, yn enwedig rhwng y 1940au a'r 1970au pan ddaeth llawer o bobl i Brydain. Dyma ambell lun o'n harchif o weithwyr wrth eu gwaith yn y ffatri pan oedd yn Tower Hill yn Llundain.

 

Making coin blanks

Gwneud darnau arian diaddurn

Workers at the Royal Mint in the 1960s

Arllwys metel tawdd

Work outing to Margate June 67

Gwibdaith gwaith i Margate, Mehefin 1967

Outing to Margate June 67

Gwibdaith gwaith i Margate, Mehefin 1967

Pouring molten metal

Arllwys metel tawdd

Making strip metal

Gwneud metel stribed

Police at Tower Hill

Yr heddlu yn Tower Hill

 

Harry Cumberbatch

Ym 1964 cafodd Harry ei recriwtio yn Barbados gan London Transport i weithio ar y bysiau. Tra bu ar y bysiau, ymunodd â milwyr wrth gefn Siacedi Gwyrdd Brenhinol 4ydd Bataliwn y Fyddin Diriogaethol. Helpodd y profiad hwn iddo gael ei swydd nesaf sef chauffeur i Gyfarwyddwr y Bathdy Brenhinol, Syr Jack James.

Darllenwch stori Harry

Heddiw

Hyd yn oed heddiw mae pobl o dramor yn gweithio yn y Bathdy Brenhinol. Dyma rai o'u straeon.

Chikako Tamamushi

Cefais fy ngeni yn Akita, gogledd Japan ac yna pan oeddwn yn flwydd oed, symudodd fy nheulu a minnau i Niigata, sef dinas arall yng ngogledd Japan. Roedd Dad yn gyfarwyddwr gwerthu mewn cwmni peirianneg sifil ac mae'n gyffredin yn Japan i gwmnïau adleoli eu staff a'u teuluoedd i wahanol leoedd. Symudon ni ychydig o weithiau ac yna nôl i Niigata pan o'n i'n 12 oed lle arhosom tan i mi orffen yr ysgol. Yna symudais i ardal ger Tokyo ac es i'r brifysgol i astudio dylunio. Roeddwn am fod yn ddylunydd tirlun erioed gan fy mod wrth fy modd â thema ddylunio’r 'ardd Seisnig'.

Pan oeddwn yn y brifysgol, gwelais hysbyseb am drip i Brydain i ddysgu Saesneg a meddyliais y gallai fy helpu yn fy ngwaith dylunio. Cynilais fy arian a chefais gymorth fy rhieni i drefnu fy lle cyn mynd i aros gyda theulu yng Nghaersallog, Wiltshire am dair wythnos i ddysgu siarad Saesneg. Hwn oedd fy nhro cyntaf dramor ac roeddwn i'n gyffrous i gwrdd â llawer o fyfyrwyr tramor eraill o lawer o wledydd eraill. Newidiodd y trip fy mywyd! Cyn hir, y teulu y bues i’n aros gyda nhw oedd fy “nheulu Seisnig" am fod Don a Jane wedi fy nerbyn fel petawn i'n un o'u plant eu hunain. Rydyn ni'n dal yn rhan o fywydau ein gilydd heddiw.

Ar ôl y brifysgol, ym 1998, penderfynais ddychwelyd i'r DU i barhau i ddysgu Saesneg a dewisais Gaerdydd! Roeddwn i’n bwriadu aros am ddwy flynedd. Ond cwrddais â fy ngŵr! Fe briodon ni yn 2001, ces i swydd gyda chwmni o Japan ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn yr un flwyddyn a gweithiais yno am bedair blynedd, cyn cymryd swydd newydd gyda chwmni lleol yn Abertawe am dair blynedd a hanner ac yna cael swydd mewn cwmni gweithgynhyrchu yn Llantrisant. Pan gyrhaeddais fy 40, ro'n i am wneud rhywbeth mwy diddorol, a sylweddolais fy mod yn gyrru heibio i'r Bathdy Brenhinol ers blynyddoedd lawer felly dechreuais edrych i weithio ar y safle. Yn 2016 roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy nerbyn i weithio yn yr adran Metelau Gwerthfawr, a fy rôl i oedd rheoli dosbarthwyr allweddol ar draws y byd. Ers hynny, rwyf wedi symud ymlaen i rôl wahanol sy'n gofalu am gwsmeriaid hirsefydlog y Bathdy, ac rwyf wrth fy modd â hynny!

Inga Doak

Wrth dyfu i fyny ar fferm ddefaid ym mherfeddwlad Awstralia, roeddwn wedi darllen am bobl eraill yn croesi i'r cyfandir yr oeddwn yn ei alw’n gartref ac oddi yno (sef hefyd yr ail gyfandir teneuaf ei boblogaeth ar ôl Antarctica!). Ond nid tan i mi adael yr ysgol, cwblhau'r brifysgol, a dechrau gweithio y des innau’n fforiwr trawsgyfandirol - gan gyrraedd Llundain tua diwedd fy ugeiniau, yn barod am yr heriau a'r gwobrau o fyw a gweithio mewn gwlad wahanol. Ond, heb fodloni ar y DU yn unig, cefais flas wedyn ar fywyd gwaith yn Iwerddon, y Ffindir a'r Almaen: a phob lle’n rhan o'r un cyfandir (Ewrop) ond yn wledydd gwahanol iawn! Rwy'n ôl yn y DU nawr ac oherwydd amseru da ac ychydig o lwc, rwy'n hapus yn gweithio yn y Bathdy Brenhinol. Ac, yn rhyfedd ddigon, roedd ganddo is-Fathdai ar un adeg ar waith yn... ie wir....Awstralia!

back to top