Darnau arian
Yn ogystal â gwneud darnau arian i’r DU, mae'r Bathdy Brenhinol hefyd yn eu gwneud i lawer o wledydd eraill ledled y byd. Drwy gydol hanes mae'r Bathdy wedi gwneud darnau arian i fwy na 200 o wahanol wledydd. Ar y dudalen hon, caiff rhai o’r darnau arian hynny eu hastudio a chynigir gweithgareddau y gallwch eu defnyddio yn y dosbarth.
Darnau arian rhyngwladol
Mae dyluniadau ar ddarnau arian yn aml yn mynegi rhywbeth am hunaniaeth genedlaethol y wlad y maen nhw ar ei chyfer. Defnyddiwch y lawrlwythiadau hyn i archwilio'r gwahanol ddarnau arian rhyngwladol a wnaed gan y Bathdy Brenhinol a beth yw ystyr y delweddau ar y darnau arian.
Darnau arian i’w torri allan
Lawrlwythwch y PDF isod sy’n cynnwys lluniau o ddarnau arian o bedwar ban byd. Bydd y disgyblion yn torri’r siapau allan ac yn gludo’r ochrau pen a chynffon at ei gilydd i wneud darn arian â dwy ochr.
Ymchwiliwch i’ch darnau arian. O ba wledydd maen nhw’n dod?
Lawrlwythwch y ffeil ffeithiau PDF i athrawon i helpu i adnabod y gwahanol ddarnau arian gyda’r disgyblion a’u gosod ar fap o’r byd. Fel arall, efallai bydd y disgyblion am ddefnyddio Google Earth i gael gwybod rhagor am y gwledydd a gynrychiolir gan y darnau arian.
Briff dylunio darn arian
Yn y gweithgaredd hwn gallwch ddylunio'ch darn arian eich hun i gynrychioli'r man lle rydych chi'n byw. Meddyliwch am y delweddau a welsoch ar y darnau arian rhyngwladol a sut mae gwahanol wledydd wedi ceisio mynegi eu hunaniaeth genedlaethol trwy'r dyluniadau hyn.
Dyluniwch eich darn arian eich hun
Am eich bod bellach wedi astudio darnau arian y byd, gofynnwch i’r disgyblion ddylunio eu darnau arian eu hunain. Sut byddent yn cynrychioli eu hunain?
Logisteg
Mae'r Bathdy Brenhinol yn dal i wneud darnau arian ar gyfer llawer o wledydd eraill heddiw. Ond sut maen nhw'n mynd o'i ffatri yn ne Cymru i leoedd miloedd o filltiroedd i ffwrdd? Gwyliwch y fideo yma i weld sut mae'r darnau arian yn cael eu pecynnu a'u paratoi i gael eu hanfon ledled y byd.