Close

Un rheswm sydd gan bobl dros symud i wledydd gwahanol yw dod o hyd i waith. Cafodd un ardal ychydig filltiroedd i ffwrdd o safle'r Bathdy Brenhinol yn ne Cymru yr enw America Fach am fod cynifer o bobl yn symud eu hunain a'u teuluoedd i America, ac yna’n ôl i dde Cymru, er mwyn dod o hyd i swyddi. Efallai bod cymunedau yn agos i’ch cartref chi lle daeth pobl oherwydd gwaith?

America Fach

Ar ddechrau'r 1800au penderfynodd llawer o ffermwyr Cymru gychwyn am America i chwilio am fywyd gwell iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd. Yn yr 1840au denwyd glowyr o Gymru i ddilyn ôl eu traed, gan glywed hanesion am gyflogau uchel a digonedd o waith ym meysydd glo America.

Miners loading a mine car in a coal mine in America-Mary Evans Library of Congress.jpg

Glowyr yn llwytho cerbyd mewn pwll glo yn America. Mary Evans Library of Congress

 

Aeth pobl o bedwar ban byd ar y daith hon am yr un rhesymau; dywedodd un glöwr o Gymru yn Pottsville, Pennsylvania, mewn llythyr i’w deulu, fod “y gystadleuaeth yn gryf a'r cwmnïau’n manteisio ar hyn i gyflogi tramorwyr sydd heb arfer â'r math yna o waith gan wneud yr hen weithwyr yn segur felly.". Wrth i'r gystadleuaeth am waith dyfu, aeth y gwaith yn anoddach. Wrth i fwy o lo gael ei dynnu, daeth y gwythiennau glo yn anoddach gweithio gyda nhw, a dechreuodd gymryd mwy o amser i lenwi'r dramiau glo a oedd yn ofynnol i’r gweithwyr gael eu talu.

Miners at mine entrance, Pittsburgh, USA_Mary Evans Pharcide(1).jpg

Glowyr wrth fynedfa'r pwll glo, Pittsburgh, Pennsylvania, UDA. Mary Evans Pharcide

 

Newidiodd popeth yn yr 1860au, wrth gydnabod bod diwydiant glo Cymru yn cynhyrchu'r glo gorau ar gyfer peiriannau a yrrid gan stêm. Dangosodd treialon yn y 1840au mai glo de Cymru oedd o'r ansawdd gorau, a gadarnhawyd mewn adroddiad ym 1851. O'r cyfnod hwn, ehangodd diwydiant glo De Cymru'n gyflym i'r 1860au. Dywedodd W. S. Jevons, economegydd o Loegr, ym 1865, "saif glo mewn gwirionedd nid wrth ochr nwyddau eraill ond uwch eu pennau’n llwyr. Hwn yw ynni perthnasol y wlad. Y cymorth cyffredinol a ffactor ym mhopeth a wnawn." Magodd glo yr enw 'diemwntau du' yn y pen draw, a phenderfynodd llawer o lowyr a oedd wedi gadael eu ffrindiau a'u teulu ar ôl yng Nghymru ddychwelyd. Mae gan un ardal, heb fod ymhell o safle'r Bathdy Brenhinol, stori arbennig o ddiddorol i'w hadrodd.

Two middle aged miners with their lamps, at a colliery in South Wales_Mary Evans Roger Worsley Archive.jpg

Dau löwr canol oed gyda'u lampau, mewn pwll glo yn Ne Cymru. Mary Evans Roger Worsley Archive

Mae America Fach ychydig y tu allan i dref fodern Porth. Ardal o dai teras ydyw a adeiladwyd yn rhannol gan berchennog y pwll glo lleol, George Insole. Adeg ei hadeiladu, roedd ganddi dri chapel ac ysgol ac roedd ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r fferm a ddatblygodd yn dref fodern Porth. Yn wreiddiol gelwid y pentref yn Ystradyfodwy, ond yn ddiweddarach yn y 1800au penderfynodd llawer o'r teuluoedd Cymreig a oedd wedi gadael am America ddod yn ôl, ac enillodd enw lleol America Fach. Mae llawer o enghreifftiau o deuluoedd yno y ganwyd rhai o’u plant yng Nghymru a rhai yn America.

Map of Wales.jpg

Yng nghyfrifiad 1891 ceir llawer o wybodaeth am y bobl oedd yn byw yn America Fach ar y pryd. Yn 33 Heol Hafod roedd John ac Elizabeth Evans yn byw, yn 30 a 29 mlwydd oed. Glöwr oedd John, ac roedd gan y pâr ddau o blant. Ganwyd Evan, 5 oed, yn Hafod, Morgannwg, a ganwyd Emlyn, 3 oed, yn Oliphant, America. Yn 123 Heol Maerdy roedd Abram a Martha Charles yn byw, yn 24 a 23 oed, a aned ym Maesteg. Ganwyd yr hynaf o'u dau blentyn, David, yn Scranton, America, a ganwyd eu baban, Mary, ym Maerdy.

Ar y pryd, byddai rhai teuluoedd yn derbyn lletywyr, a rhai ohonynt wedi teithio'n bell. Yn 55 Heol Miskin roedd lletywr o’r enw Charley Shepherd yn byw, a oedd yn 26 oed ac yn gweithio fel glöwr. Fe’i dangosir ar y cofnod fel "Deiliad Prydeinig o America", ac fe ddaeth i Gymru i fod yn löwr yn lle gweithio yn y pyllau glo yn America. Byddai rhai teuluoedd hefyd yn dod â phobl nôl i Gymru gyda nhw. Yn 27 Heol Ystrad roedd Morris Lorie yn byw, dyn 48 oed a aned yng Ngwlad Pwyl, a gyfarfu â'i wraig Sarah, a anwyd yn Troy, Rensselaer, Efrog Newydd, a’i phriodi. Mae cyfrifiad 1891 yn dangos bod ganddynt un ferch, Rebecca Rachel, a oedd yn 22 ond a anwyd yn Ystrad, yng Nghymru.

Welsh miner in coal mine pushing truck_Mary Evans  Roger Worsley Archive.jpg

Glöwr o Gymru mewn pwll glo yn gwthio wagen. Mary Evans Roger Worsley Archive

Gadawodd rhai teuluoedd mawr am America, gan olygu bod plant yn mynd i'r ysgol yn eu cymunedau yn America yn ogystal â bod plant yn cael eu geni yno. Byddai llawer o'r plant wedi dod â'u hacenion Americanaidd nôl i Gymru gyda nhw. Yn 15, Troedhopkin roedd John a Margaret Thomas yn byw gyda'u saith o blant. Cyn i’w plentyn canol, William, gael ei eni yn Ohio tua 1869, roedd gan John a Margaret dri mab arall, sef Watkin, David ac Evan, y byddent oll wedi mynd i fyw yn Ohio. Rywbryd o fewn chwe blynedd ar ôl geni William, dychwelodd y teulu i Ystradyfodwy, America Fach, a daeth tair chwaer arall i'r bechgyn: Mary, Lizzie a Sarah. Roedd yn stori debyg i Thos (byr am Thomas) ac Elvira Williams, a’r ddau wedi’u geni yn ardal Ystradyfodwy, a oedd yn byw yn 88 Lower Trafagar. Gadawon nhw am America gydag un ferch, Sarah, yna ganwyd ei brawd, Thos, yng Nghanada. O fewn 9 mlynedd i eni'r Thos ieuengach, daeth teulu o bedwar yn ôl i America Fach a ganwyd pump o frodyr a chwiorydd eraill, sef William, Edward, Sidney, Cath ac Edith i gyd yng Nghymru.

Os hoffech chi wybod rhagor am y glowyr yn ne Cymru gallwch wylio'r fideo isod. Parc Treftadaeth Cwm Rhondda - Taith Pyllau Glo Cymru

 

 

back to top