Close

Lleidr Annisgwyl

Mewn bwthyn bach clyd ger Llantrisant, roedd hen wraig gyfeillgar yn byw. Erbyn hyn, roedd y wraig yn unig ac roedd yn byw ar ben ei hun. Gwisgai ddillad carpiog, ond eto yn glyd. Cyrliau ei gwallt tennau o gwmpas ei wyneb rhychlyd. Ei henw oedd Margret. Margret Jones.

Roedd Margret - neu Mrs.Jones - yn byw yn y flwyddyn 1971. Un diwrnod, roedd Mrs. Jones yn gwrando ar y radio yn ei thŷ. Clywodd am y stori ddiweddaraf ‘Newid i’r byd arian’ Yn ogystal, clywodd am yr arian newydd! Dechreuodd boeni’n arw. Sut yr oedd am ddysgu sut i brynu ei phapur newydd dyddiol!? Sut y byddai yn mynd i siopa pob dydd Mercher!? A sut byddai yn prynu ei hoff dorth o’r becws!? Roedd hyn yn drychineb i Mrs . Jones. Meddyliwch, os byddai’r llywodraeth yn cyhoeddi bod ein harian yn mynd i newid i arian gwahanol!

Felly, fel trefn wythnosol Mrs. Jones, fe aeth i siopa, ar ddydd Mercher - wrth gwrs. Roedd y banc wedi trosglwyddo ei phres i’r arian newydd. Ar y radio, fe ddywedodd y darllenydd bod pob punt (sef yr arian newydd) werth 100 ceiniog. Nid oedd pobl Prydain wedi arfer a hyn. Roeddent wedi arfer a defnyddio swllt, deuswllt a hanner coron! Felly, fe geisiodd Mrs. Jones brynu ei hoff dorth o’r becws. Nid oedd yn dallt o gwbl sut i dalu 10 ceiniog am y dorth!

Lleidr Annisgwyl.jpg

“O rargol fawr! Sut goblyn dwi am allu deall sut i dalu am y dorth ‘ma! Mae gen i ormod o gywilydd i ofyn i bobl fy helpu! O be wnai!”

Felly, yr eiliad aeth y siopwr i’r cefn i chwilio am fwy o wyau i gwsmer arall yn y siop, fe sleifiodd Mrs. Jones yn ddistaw fel llygoden ar flaenau ei thraed at y silff gyda ei hoff dorth o fara arno. Roedd yr arogl yn arbennig. Nid oes bara gwell yn unman yn ôl Mrs. Jones. Felly, pan doedd neb yn edrych arni, fe gipiodd y bara fel mellten a’i stwffio yn ei phwrs. Doedd neb yn amau dim. Wel, doedd hi ddim yn meddwl beth bynnag.

Yna, fe adawodd y siop a dweud “Twdalw!” wrth y siopwr. Ei chynllun oedd actio’n gyfeillgar i wneud yn siwr bod neb yn amau dim. Ond, tra yn cerdded ar y ffordd yn ôl i’r safle bws, fe ddisgynnodd y dorth o’i bag a glanio yn bendramwnwgl ar y llawr. Erbyn hyn, roedd pawb yn syllu yn syn ar Mrs. Jones.

“LLEIDR! ” Meddai dyn oedd yn y siop. “Wnaeth hi ddim talu am y dorth yna!”

“Nawr nawr, rwy’n siwr bod eglurhad da am hyn. Oes yna?” Meddai merch ysgol oedd yn mynd ar yr un bws a Mrs. Jones. Ei henw oedd Mari.

“Oes … wel …” Aeth Mrs. Jones yn goch at ei chlustiau. “Mae gen i gywilydd i ddweud … tydw i ddim yn deall y system arian newydd sydd wedi cael ei chyflwyno, ac roedd gen i gywilydd i ofyn am help.”

“O peidiwch a phoeni Mrs. Jones! Mi wnawn ni eich helpu i ddysgu sut i dalu am eich torth!” meddai Mari.

“Rydym wedi dysgu am yr arian newydd yn yr ysgol dydd Llun!”

“O diolch o galon i chi! A sori am ddwyn o’r siop, dwi ddim yn gwybod beth ddaeth dros fy mhen i! Wnai byth wneud dim byd fel yna eto.” Dywedodd Mrs. Jones.

Ychydig wedyn, fe ddaeth y ferch am baned a cacen i dŷ Mrs. Jones ac fe ddatblygodd gallu Mrs. Jones i gyfri arian newydd! Daeth y ddwy yn ffrindiau mawr! Roedd Mari yn dod i weld Mrs. Jones bron pob dydd!

Ychydig flynyddoedd wedyn, roedd Mrs. Jones yn hoff iawn o gyfri arian. Roedd Mari wedi ei hysbrydoli, a daeth Mrs Jones yn gyfrifydd arian yn y banc lleol!

Y Diwedd!

back to top