Cwestiynau Cyffredin
Gallwch ganfod isod restr o’n cwestiynau cyffredin. Os oes gennych gwestiwn yr hoffech gael ateb iddo, anfonwch e-bost at decimalisation@royalmint.com
Sut mae cyflwyno cynnig?
Gallwch e-bostio’ch cynnig at decimalisation@royalmint.com neu ei bostio at:
Cystadleuaeth Stori Fer
The Royal Mint Museum
Llantrisant
Pontyclun
CF72 8YT.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’ch enw, oedran ac ysgol i ni er mwyn i ni allu dweud wrthych a gawsoch eich dewis ar gyfer y rhestr fer.
Oes rhaid i mi dalu i gyflwyno cynnig?
Nac oes, mae’r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim.
Pwy sy’n gallu rhoi cynnig?
Unrhyw un naw i un ar ddeg oed (blynyddoedd pump a chwech) sy’n byw ac sy’n mynd i’r ysgol yng Nghymru.
A allaf roi cynnig annibynnol, neu oes rhaid i mi roi cynnig trwy fy ysgol?
Os ydych chi’n mynd i ysgol yng Nghymru, ac yn naw i un ar ddeg oed, gallwch gyflwyno cynnig.
A allaf gyflwyno mwy nag un stori?
Gallwch gynnig mwy nag un stori.
Beth yw’r wobr?
Darn o arian coffaol a set o lyfrau wedi’u hysgrifennu gan y beirniad Eloise Williams yw’r wobr i’r enillydd ac i lyfrgell yr ysgol maen nhw’n mynychu. Bydd y stori’n cael ei chyhoeddi ar-lein ac mewn print mewn sawl cyhoeddiad. Bydd gwobr o ddarn arian coffaol i’r naw agosaf at y brig.
A fydd fy manylion yn cael eu storio neu eu defnyddio?
Dim o gwbl. Byddwn ond yn defnyddio’ch manylion i gysylltu â chi os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer ac ni fydd unrhyw ddata’n cael ei gasglu o’r cynigion.
Ble gallaf gael gwybod mwy am ddegoli arian?
Mae gennym barth dysgu sy’n ymroi i ddegoli arian ar ein gwefan, ond gallwch ddefnyddio ysbrydoliaeth o unrhyw ffynhonnell.
Oes rhaid imi ddefnyddio un o’r pynciau a awgrymir?
Nac oes, dim ond syniadau ydyn nhw. Gallwch ysgrifennu’ch stori am unrhyw beth o gwbl sy’n gysylltiedig â degoli arian.
A allaf gyflwyno fy nghynnig yn y Gymraeg?
Gallwch yn sicr.
Sut bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu?
Bydd y deg yn y rownd derfynol yn cael eu dewis gan dîm Amgueddfa’r Royal Mint. Bydd pob cynnig yn cael eu darllen a’u gwerthuso, yna bydd y deg yn y rownd olaf yn cael eu rhoi ar y rhestr fer. Bydd y cynnig buddugol yn cael ei ddewis gan Eloise Williams.
Sut byddaf yn cael gwybod os byddaf yn ennill?
Os ydych chi ar restr fer i dderbyn gwobr, byddwn yn cysylltu â chi trwy’ch ysgol oni y nodwch yr hoffech i ni gysylltu â chi’n wahanol.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn ennill?
Bydd y stori fuddugol yn cael ei chyhoeddi a bydd eich cynnig yn dod yn rhan o gasgliad Amgueddfa’r Royal Mint, ynghyd â’r cynigion eraill ar y rhestr fer. Oherwydd y cyfyngiadau i’n cadw ni’n ddiogel rhag COVID 19, mae’n bosibl na allwn drefnu cyflwyniad. Os na fydd cyflwyniad yn bosibl, byddwch yn derbyn eich gwobr yn y post. Hwyrach y bydd diddordeb gan y cyfryngau yn y stori, ond byddwn yn trafod hynny gyda chi a’ch gwarcheidwaid ar y pryd.