Hen arian
Bu’r system cyn degoli o bunnoedd, sylltau a cheiniogau, gyda 240 ceiniog i’r bunt, o gwmpas am ganrifoedd cyn i’r DU symud drosodd i’r system ddegol gyda dim ond 100 ceiniog i’r bunt hanner can mlynedd yn ôl.
Heb os, mae’r system ddegol yn symlach na’r hen arian, ond wyddoch chi faint yn haws ydyw nawr? Edrychwch ar y graffig isod i weld sut roedd darnau arian cyn degoli’n gweithio. Ydych chi’n credu y byddech chi’n ei gweld hi’n anodd defnyddio’r darnau arian hyn heddiw?