Arian newydd
Pan gafodd y darnau arian degol newydd eu cylchredeg am y tro cyntaf ym 1971, nid oedden nhw’n edrych yn union fel y rhai y byddwch yn gyfarwydd â nhw heddiw. Er bod y gwerthoedd a’r siapiau wedi aros yr un fath, mae rhai o’r meintiau a’r cynlluniau wedi newid dros y blynyddoedd. Fe sylwch chi hefyd y bydd gan y darnau arian gwreiddiol NEW PENCE wedi’u hysgrifennu arnynt, ac rydym wedi colli darn arian hefyd. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r hanner ceiniog mwyach.